Darlithydd Gosod Trydanol - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Cyf**:EIL052023**

**Teitl y Swydd**:Darlithydd Gosod Trydanol (Lefel 3)**

**Contract: Parhaol, Llawn Amser**

**Oriau: 37**

**Cyflog: £22,583 - £44,444 y flwyddyn**

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Technegydd Diwydiannau Creadigol yn adran Diwydiannau Creadigol Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi'i lleoli ar wahanol gampysau.

Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:

- Ymgymryd â'r holl waith addysgiadol fel addysgu yn y dosbarth (sy'n cynnwys gweithdai ayyb.), gwaith tiwtorial sy'n gysylltiedig ag allgymorth, cyrsiau preswyl ac agored a dysgu o bell a lleoliadau myfyrwyr;
- Ymgymryd â'r holl waith sefydliadol a gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r uchod, paratoi a marcio;
- Ymgymryd â chyfrifoldebau lles myfyrwyr a chwnsela academaidd neu anacademaidd priodol;
- Ymgymryd â chyfrifoldebau lles myfyrwyr a chwnsela academaidd neu anacademaidd priodol;
- Cymryd rhan mewn marchnata, h.y. adnabod gofynion defnyddwyr, cynllunio, datblygu a gwerthuso cyrsiau a deunyddiau cyrsiau, cyhoeddusrwydd a chysylltiadau cyhoeddus;
- Cynorthwyo i fonitro ac olrhain cynnydd myfyrwyr a'u hawl i ddarpariaeth cymorth dysgu;
- Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Y gofynion ar gyfer y rôl hon yw o leiaf cymhwyster Lefel 3 mewn Gosod Trydanol, cymhwyster addysgu cydnabyddedig neu barodrwydd i weithio tuag at un, Dyfarniad Aseswr a Dyfarniad Dilyswr neu barodrwydd i weithio tuag atynt a phrofiad amlwg ym maes Gosod Trydanol.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 25/05/2023 yr 12:00pm.**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun hyderus o ran anabledd.

More jobs from Cardiff and Vale College