Cynorthwywyr Cymorth Ychwanegol - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College
Description
**Swydd Wag Fewnol / Allanol*****Teitl y Swydd**:Cynorthwywyr Cymorth Ychwanegol**
**Contract**:Rhan Amser (0.8 cyfwerth â llawn amser), Yn Ystod Tymor Ysgol yn Unig, Parhaol**
**Cyflog: £21,278 - £22,790 pro rata**
**Oriau**: 29.6 awr yr wythnos**
**Lleoliad**:Caerdydd a'r Fro**
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn chwilio am Gynorthwywyr Cymorth Ychwanegol i weithio yn yr Adran Dysgu Sylfaenol. Mae'r adran yn darparu cyrsiau ar gyfer pobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a/neu Anableddau, a'r rheiny sydd mewn perygl o fod allan o addysg, cyflogaeth a hyfforddiant (NEET).
Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:
- Cymryd nodiadau taclus a chlir, darllen, ysgrifennu, egluro cyfarwyddiadau ac unrhyw addasiadau rhesymol eraill i gael gwared â'r rhwystrau rhag dysgu
- Bod yn ddarllenydd/ysgogwr/ysgrifennydd neu unrhyw addasiadau rhesymol eraill at ddibenion asesu ac arholiad
- Cefnogi dysgwyr i ddefnyddio technoleg gynorthwyol a dysgu a meddalwedd arbenigol, a hyrwyddo'r defnydd ohoni'n weithredol
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus 5 TGAU gradd A-C (yn cynnwys Mathemateg a Saesneg) neu gyfwerth yn ogystal â Chymhwyster Sgiliau Sylfaenol (neu barodrwydd i'w gwblhau o fewn 12 mis i ddechrau'r swydd). Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio â phobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, anawsterau dysgu a/neu anableddau a phrofiad o weithio o fewn amgylchedd sy'n ymwneud â bod wyneb yn wyneb â chwsmeriaid. Ceir rhagor o wybodaeth yn y swydd ddisgrifiad/Manyleb Person.
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.
**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw dydd Iau 17eg Awst am 12pm**
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr ar eich penodiad.
Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd
**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun hyderus o ran anabledd.
More jobs from Cardiff and Vale College
-
Darlithydd Bioleg a Chemeg
Cardiff, United Kingdom - 1 week ago
-
Hyfforddwr Cyfrwng Cymraeg
Cardiff, United Kingdom - 1 week ago
-
Darlithydd Gosod Trydanol
Cardiff, United Kingdom - 3 weeks ago
-
Interniaeth â Chymorth
Cardiff, United Kingdom - 1 week ago
-
Head of Technology Enhanced Learning
Cardiff, United Kingdom - 3 weeks ago
-
Communications Officer
Cardiff, United Kingdom - 1 day ago