Darlithydd Mynediad Galwedigaethol - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

    Default job background
    Permanent
    Description

    Swydd Wag Fewnol / Allanol

    Cyf: FL2404

    Teitl y Swydd: Darlithydd Mynediad Galwedigaethol

    Contract: Parhaol, Rhan Amser 0.7 cyfwerth â llawn amser

    Oriau: 25.9 awr yr wythnos

    Cyflog: £24,051 - £47,333 pro rata

    Mae adran Dysgu Sylfaen Coleg Caerdydd a'r Fro yn darparu cyrsiau ar gyfer bobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a/neu Anableddau, a'r rheiny nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae'r adran yn tyfu'n flynyddol, ac mae ein cwricwlwm ar gyfer 2023/24 yn cynnwys 32 o gyrsiau ar gyfer 400+ o ddysgwyr posib ar draws 4 lleoliad gwahanol. Mae ein cyrsiau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar gyflawni deilliannau, wedi eu trefnu i'r meysydd canlynol.

  • Sylfaen Byw'n Annibynnol
  • Sylfaen Gwaith
  • Sylfaen Astudio
  • Mae ein holl gyrsiau Dysgu Sylfaen yn cynnwys cymysgedd o ddysgu ar lawr y dosbarth a chwblhau prosiectau er mwyn creu cwricwlwm amrywiol a diddorol. Mae'r cwricwlwm yn elwa o brofiad a sgiliau ehangach ein tîm, sy'n sicrhau bod ein myfyrwyr yn fedrus ac yn gyflogadwy. Rydym yn angerddol ynglyn ag addysgu a dysgu, ac rydym yn ymwybodol o'r ffaith bod ein staff, fel ein dysgwyr, wedi bod ar eu taith dysgu eu hunain. Oherwydd hyn, rydym yn ymfalchïo yn ein rhaglen Datblygu Proffesiynol Parhaus, gan ganolbwyntio ar yr hyn rydym yn ei addysgu a sut rydym yn ei addysgu, a chynnig gweithdai rheolaidd a chyfleoedd Datblygu Proffesiynol Parhaus tymhorol sy'n canolbwyntio ar wneud i'n hathrawon deimlo'n hyderus eu bod yn gwneud gwahaniaeth o fewn yr ystafell ddosbarth.

    Mae cyfle cyffrous wedi codi i addysgu ar ein cyrsiau Sylfeini Astudio ar ein safleoedd Canol y Ddinas a Heol Colcot. Mae ein cyrsiau Mynediad Galwedigaethol wedi'u dylunio i annog pobl ifanc a rhoi'r sgiliau, rhinweddau a phrofiadau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu i gyrsiau Addysg Bellach pwnc benodol. Rydym yn chwilio am diwtoriaid sy'n grymuso dysgwyr i gymryd perchnogaeth o'u taith ddysgu eu hunain drwy eu hymarfer; gan eu galluogi i greu eu sgaffald eu hunain a rheoli ymddygiad cadarnhaol sy'n sicrhau eu bod yn cyflawni eu hamcanion dysgu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynllunio, cyflwyno ac asesu'r pwnc, gan sicrhau profiad cadarnhaol, wedi'i wthio gan werthoedd i Ddysgwyr. Rydym yn awyddus i benodi gweithwyr addysgu proffesiynol ymrwymedig, angerddol a all addysgu gwersi ysbrydoledig, rhagorol, yn gyson. Mae gan y swydd y potensial i ddatblygu, yn ddibynnol ar anghenion yr adran a set sgiliau'r ymgeisydd.

    Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr sydd â phrofiad o un neu fwy o'r canlynol:

    -Darparu ac asesu cymwysterau Sgiliau Allweddol Cymhwyso Rhif hyd at lefel 1

    -Darparu ac asesu sgiliau seiliedig ar waith

    -Darparu ac asesu rhaglenni astudio nad ydynt yn achrededig

    Am ragor o fanylion ynglyn â'r swydd a'i chyfrifoldebau, edrychwch ar y Swydd ddisgrifiad. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd a chymhwyster addysgu perthnasol. Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

    Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

    Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 17/05/2024 am hanner dydd.

    Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais ewch i neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio neu anfonwch e-bost i

    Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

    Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.

    Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.