Gweithiwr Cyfranogiad Ieuenctid - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**

Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl ifanc yn rhan o bob agwedd o'i ddarpariaeth gwasanaethau. Gan weithio fel rhan o'r tîm cyffredinol, rydym am recriwtio gweithiwr cyfranogi a all gefnogi datblygiad ein cynnig cyfranogi.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cynnig cyfleoedd anffurfiol i bobl ifanc 11-25 oed ar draws Bro Morgannwg i'w cefnogi i gyflawni eu potensial llawn. Rydym yn darparu amgylcheddau diogel i bobl ifanc fwynhau eu hunain a chwrdd ag eraill; teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi; cael gwybodaeth a chymorth; a dysgu sgiliau newydd.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion Tâl: Cydgyngor Trafod Telerau Pwynt 12 £26,576 y flwyddyn

Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos, yn gweithio 2-3 noson yr wythnos (uchafswm o 4 noson yr wythnos), ambell i benwythnos a phreswylfeydd dros nos.

Prif Weithle: Wedi'i lleoli yn y swyddfa, Swyddfeydd Dinesig y Barri, gyda theithio ar draws gwahanol leoliadau ym Mro Morgannwg.

Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Cyllid Grant

**Disgrifiad**:
Byddwch yn cefnogi datblygiad ein Cyngor Ieuenctid Bro newydd, gan sicrhau bod modd i bob person ifanc o bob rhan o Fro Morgannwg gael clywed ei lais ar faterion yn ymwneud â'r cyngor, gan ddarparu cysylltiadau cyfathrebu rhwng sefydliadau pobl ifanc a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ym Mro Morgannwg. Byddwch hefyd yn cefnogi cyflawniad prosiectau cyfranogi eraill sy'n cael eu hwyluso gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro.

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad mewn gwaith ieuenctid wyneb yn wyneb mewn amrywiaeth o leoliadau.
- Profiad o offer a thechnegau ymgynghori.
- Profiad o gefnogi pobl ifanc i leisio eu barn neu eirioli ar ran pobl ifanc i randdeiliaid.
- Gallu cyfathrebu'n effeithiol a rhoi cyflwyniadau.
- Gwybodaeth am y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol a CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn).
- Wedi cofrestru gyda'r CGA fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid neu Weithiwr Ieuenctid.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Manwl ar gyfer Plant ac Oedolion

Job Reference: LS00232

More jobs from Vale of Glamorgan Council