Rheolwr Swyddfa - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Bryn y Deryn a Chanolfan Carnegie yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol, cymdeithasol ac iechyd meddwl.

**Am Y Swydd**
Trefnu a goruchwylio systemau gweinyddol yn yr ysgol. Cyfrannu at gynllunio, datblygu a monitro staff cymorth, gan gynnwys cydlynu a dirprwyo gweithgareddau perthnasol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm a bydd ganddynt brofiad blaenorol o weithio mewn rolau gweinyddol ac â chyfrifoldebau perthnasol.

Dyma gyfle i rywun ag empathi, egni, ymrwymiad a brwdfrydedd i gael effaith gadarnhaol ar yr ysgol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn rhan amser a bydd yn gweithio 37 awr/ 39 wythnos a 10 diwrnod yn ystod gwyliau'r ysgol

I gyflawni'r swydd hon, rhaid i chi fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae'r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: EDU00657

More jobs from Cardiff Council