Rheolwr Technegol - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council
Description
**Am Y Gwasanaeth**Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel wrth gyflawni ei swyddogaethau i gynnal a chadw 13,808 eiddo domestig y Cyngor a thua 9 adeilad llety â chymorth. Mae hefyd yn gyfrifol am 9 bloc fflatiau uchel, yn ogystal â Chyfadeiladau Byw yn y Gymuned.
**Am Y Swydd**
Prif swyddogaeth y rôl yw cynorthwyo'r Rheolwyr Technegol / Rheolwyr Technegol Cymwysedig. Gyda phwyslais ar fod yn rhagweithiol wrth ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid fel archwiliadau tamprwydd a cheisiadau am wasanaeth.
Cynnal arolygon o eiddo yn ôl yr angen gyda thenantiaid yn yr eiddo, a chodi problemau neu waith atgyweirio yn ôl yr angen. Hefyd, cynorthwyo â chydlynu a rheoli'r swyddogaeth atgyweirio ymatebol y gwasanaeth, gan sicrhau bod systemau penodi a rheoli gwaith yn cael eu cynnal.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo tenantiaid ac i weld yr eiddo wrth atgyweirio gwaith neu pan fydd yn cael ei gwblhau i drafod unrhyw faterion.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rhaid i chi ddangos ymrwymiad i ddatblygiad personol a hunan-ddysgu a chael gwybodaeth am faterion sy'n gysylltiedig â thai wrth ymdrin ag atgyweiriadau ymatebol o fewn eiddo.
Dylech hefyd allu gweithio fel aelod o dîm a dilyn gweithdrefnau cymhleth a dylech feddu ar sgiliau cyfathrebu da yn ogystal â phrofiad o ymweld â phobl yn eu cartrefi.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu darparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid a gweithio'n effeithiol gyda phreswylwyr.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Am sgwrs anffurfiol, ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch ag Leigh Brown ar
Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siartr Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd
Bydd y cyfweliad hwn yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb mewn Adeilad y Cyngor.
Job Reference: PEO02510
More jobs from Cardiff Council
-
SyrfËwr RHeoli Adeiladu
Cardiff, United Kingdom - 1 week ago
-
Gynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol
Cardiff, United Kingdom - 1 week ago
-
Gweithiwr Cymdeithasol
Cardiff, United Kingdom - 4 days ago
-
Cynorthwy-ydd Ardrethi
Cardiff, United Kingdom - 3 days ago
-
Uwch Seicolegydd Addysg
Cardiff, United Kingdom - 1 week ago
-
Uwch Swyddog Cyngor
Cardiff, United Kingdom - 2 weeks ago