- Cefnogi gwaith y Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu i ddatblygu a chyflwyno Strategaeth y Gymraeg ac amcanion y Gymraeg o'r strategaeth farchnata a chyfathrebu uchelgeisiol ar draws y coleg yn unol â strategaeth dreigl 3 blynedd y Coleg.
- Cyfrannu'n gadarnhaol ac yn gynhyrchiol at wasanaeth a thîm Cyfathrebu mewnol proffesiynol, arloesol, ymatebol ac effeithiol ar gyfer y Coleg a'i is-gwmnïau.
- Gweithio gyda staff ar draws y Coleg i sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg ar draws holl feysydd gwaith y Coleg, gan wella enw da'r Coleg mewn cymunedau lleol, rhanbarthol, a chenedlaethol a chyda'r marchnadoedd a rhanddeiliaid allweddol.
- Cefnogi'r Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu i ddatblygu a gweithredu strategaeth a phroses er mwyn datblygu, rheoli a mesur cydymffurfiaeth a hyrwyddiad y coleg o'r Gymraeg.
- Darparu rhaglen o gyngor a chymorth ymarferol sy'n galluogi adrannau ar draws y coleg i ddatblygu eu dealltwriaeth a'u gallu i ysgwyddo'r cyfrifoldeb o sicrhau cydymffurfiaeth â'r Gymraeg ar draws holl feysydd eu gwaith, yn cynnwys:
- Cydlynu gweithgareddau sy'n codi proffil CCAF fel Hyrwyddwr y Gymraeg, yn cynnwys trefnu digwyddiadau a gweithgareddau penodol ar gyfer grwpiau rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
- Sicrhau proffil a hyrwyddiad y Gymraeg drwy holl weithgareddau Marchnata a Chyfathrebu, yn cynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau, ymgymryd ag ymgysylltiad cyfryngau cymdeithasol, cymryd rhan mewn cynhyrchu deunyddiau.
- Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
-
Board Secretary
Found in: beBee S2 UK - 3 hours ago
Amgueddfa Cymru – Museum Wales Cardiff, United Kingdom Part time, Fixed-Term/ContractCategory: Management · Hours: 21 hours per week · Welsh Language Level Requirement: None · Job Summary · Ability to communicate through the medium of Welsh or a desire to learn Welsh is desirable. · This role is integral to providing direction, advice and support to The Chair and ...
-
Community Development Officer – Wales
Found in: Talent UK C2 - 1 day ago
PAPYRUS Prevention of Young Suicide Wales, United Kingdom Full timeMore details · Swyddog Datblygu Cymunedol-Cymru · Rydym am recriwtio Swyddog Datblygu Cymunedol dwyieithog yng Nghymru. Bydd y rôl hon yn ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, gan ddarparu cymorth, hyfforddiant ac addysg wedi'u teilwra i greu cymunedau mwy diogel ...
Swyddog y Gymraeg - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College
Description
Swydd Wag Fewnol / Allanol
Cyf: 12335
Teitl y Swydd: Swyddog y Gymraeg
Contract: Cyfnod Penodol dros Gyfnod Mamolaeth tan Ebrill 2025, 0.8 Cyfwerth â llawn amser
Salary: £30,510 - £32,588 pro rata
Oriau: 30 awr yr wythnos
Lleoliad: Caerdydd
Mae swydd wag gyffrous ar gael ar gyfer Swyddog y Gymraeg yn yr adran Farchnata yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi'i lleoli ar Gampws Canol y Ddinas.
Mae'r cyfrifoldebau yn cynnwys:
Gweithio â thimau i ddatblygu eu cyfathrebiadau â'r holl randdeiliaid a sicrhau cydymffurfiaeth
Nodi hyrwyddwyr o fewn timau ar draws y coleg i gefnogi cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg
Cefnogi datblygiad sgiliau iaith Gymraeg y staff drwy ddarparu a hwyluso mentora, hyfforddiant a chymorth
Darparu cyngor ac arweiniad ar waith cyfieithu
Datblygu adnoddau sy'n cefnogi ymwybyddiaeth, dealltwriaeth, cydymffurfiaeth a hyrwyddiad
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 26/04/2024 am 12:00pm.
Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais ewch i neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio neu anfonwch e-bost i
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun hyderus o ran anabledd.