- Cydlynu'r gwaith o gynllunio a chyflawni gweithgareddau polisi a dylanwadu yng Nghymru, yn bennaf drwy ddatblygu a gweithio gyda phartneriaethau newydd yng Nghymru
- Ymgyfarwyddo â pholisïau a deddfwriaeth newidiol mewn perthynas â nodi cyfleoedd i ailwylltio er mwyn sicrhau newid cadarnhaol
- Datblygu safbwyntiau polisi perthnasol a'u rhannu er mwyn dylanwadu ar yr amgylchedd polisi yng Nghymru
- Casglu gwybodaeth ac ymchwil, crynhoi tystiolaeth a rhannu'r hyn a ddysgwyd er mwyn datblygu'r safbwyntiau polisi hyn
- Sicrhau bod y cysylltiad rhwng lleoliaeth, cymunedau, diwylliant ac ailwylltio yn cael ei integreiddio yng ngwaith Rewilding Britain yng Nghymru.
- Meithrin a chynnal cydberthnasau effeithiol â rhanddeiliaid, yn enwedig â gweision sifil, gwneuthurwyr polisi, gwneuthurwyr penderfyniadau cenedlaethol a lleol a chyrff ymgyrchu/perchenogi tir/morol
- Cydweithio ag aelodau'r Rhwydwaith Ailwylltio yng Nghymru i sicrhau ymgysylltu eang mewn gweithgareddau eiriolaeth ar y cyd, gan gefnogi hyn â thystiolaeth gymhellol o fuddiannau ailwylltio
- Datblygu'r broses o greu dull cydweithredol at Ailwylltio yng Nghymru (e.e. yn debyg i ddull y Scottish Rewilding Alliance)
- Darparu prosesau monitro a gwybodaeth wleidyddol i gydweithwyr ym mhob rhan o'r sefydliad ac i bartneriaid sy'n gweithredu yng Nghymru
- Cydweithio â sefydliadau, dylanwadwyr ac ymgyrchoedd eraill
- O leiaf bum mlynedd o brofiad o weithio gyda pholisïau, materion cyhoeddus a/neu ymgyrchoedd mewn maes perthnasol yng Nghymru
- Dealltwriaeth amlwg o'r sefyllfa wleidyddol, economaidd a diwylliannol yng Nghymru mewn perthynas ag ailwylltio
- Trefnus iawn gyda sgiliau rhwydweithio ardderchog
- Y gallu i ddadansoddi ymchwil a thystiolaeth i ddylanwadu ar bolisïau
- Sgiliau cyfathrebu darbwyllol sy'n dylanwadu ac yn ysgogi
- Y gallu i weithio'n annibynnol, gan ddangos menter wrth feithrin cydberthnasau ardderchog â'r tîm ehangach
- Yn gallu cyfuno gweithgareddau polisi, materion cyhoeddus ac ymgyrchu yn fedrus, gyda thystiolaeth glir o effaith
- Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hynod ddymunol.
- Profiad o reoli gwaith o bell
- Profiad a dealltwriaeth o ailwylltio
- Profiad o siarad yn gyhoeddus
- Profiad o ddelio â'r wasg a chyfryngau eraill
- Profiad o reoli prosiectau
- Yn llawn hunangymhelliant a menter ac yn gweithio i wneud i bethau ddigwydd
- Agwedd gadarnhaol, gydweithredol.
- Angerddol, hyblyg ac addasadwy.
- Llawn ffocws ac wedi eich ysgogi gan ganlyniadau.
- eich CV
- crynodeb dwy dudalen yn amlinellu eich dull strategol o gefnogi mudiad ailwylltio sy'n tyfu yng Nghymru, gan dynnu sylw at feysydd cyfyngol a sut y gellir mynd i'r afael â'r rhain dros e-bost i erbyn 9am ar 1 Mai 2024.
Cydlynydd Eiriolaeth Cymru in Cardiff - Wales, United Kingdom - Rewilding Britain
Description
Rewilding Britain - Cydlynydd Eiriolaeth Cymru
Ers i Rewilding Britain gael ei sefydlu yn 2015, mae ailwylltio wedi newid o fod yn syniad arbenigol i chwarae rôl bwysig yn y frwydr yn erbyn rhai o'r heriau byd-eang mwyaf a wynebir gennym. Mae Rewilding Britain yn rhan annatod o'r newid hwn, yn gweithredu fel catalydd ar gyfer trafod a gweithredu, ac yn dangos pŵer gweithio gyda natur i greu byd cynaliadwy lle mae pobl yn ffynnu.
Dychmygwch Gymru lle mae'r cysylltiad rhwng diwylliant a natur yn cael ei ailddeffro. Lle mae plethwaith cyfoethog o goetiroedd, gwlyptiroedd, dolydd blodau gwyllt a glaswelltiroedd brodorol yn cael eu pwytho'n ôl at ei gilydd. Lle mae tiroedd a moroedd yn llawn bywyd a lle mae mentrau byd natur yn cefnogi cymunedau sy'n ffynnu ymhell ac agos. A dychmygwch fod hyn wedi'i arwain a'i gyflawni gan bobl leol.
Mae Rewilding Britain am weld prosesau ailwylltio yn ffynnu ledled 30% o Brydain, gan ein hailgysylltu â'r byd naturiol, cynnal cymunedau a mynd i'r afael ag argyfyngau natur a'r hinsawdd sy'n rhyng-gysylltiedig.
Rydym yn dylanwadu ar bolisïau, yn ysbrydoli camau gweithredu cyhoeddus ac yn sbarduno cymorth ymarferol ac ariannol cydgysylltiedig er mwyn helpu i sefydlu prosesau ailwylltio ledled tiroedd a moroedd Prydain. Drwy Rewilding Britain sy'n tyfu'n gyflym, rydym am ddwyn ynghyd gymuned o ailwylltwyr – o reolwyr tir a ffermwyr, i elusennau, grwpiau cymunedol a pharciau cenedlaethol – i ysbrydoli a chefnogi ei gilydd i greu Prydain fwy gwyllt a mwy ffyniannus. Nid yw'n rhy hwyr – ond rhaid i ni weithredu nawr.
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn hunangymhelliant ar gyfer rôl Cydlynydd Eiriolaeth Cymru i ymuno â'n tîm a helpu i lywio polisi a gweithgareddau eiriolaeth Rewilding Britain yng Nghymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn arloesol, blaengar a llawn cymhelliant sydd â hanes sicr o waith eiriolaeth, polisi neu ddylanwadu mewn sector perthnasol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'n helusen sy'n tyfu'n gyflym a chyfrannu'n uniongyrchol at dwf y mudiad ailwylltio.
Diben y swydd:
Mae mudiad ailwylltio sy'n tyfu ledled Cymru eisoes. Mae mwy a mwy o reolwyr tir yn chwilio am ffyrdd o ymgorffori ailwylltio i mewn i'w hymarfer, ar adeg lle mae Senedd Cymru yn ymchwilio i ffyrdd o sicrhau bod Cymru'n cyflawni ei hymrwymiadau o ran bod yn sero net ac adfer byd natur. Gan adeiladu ar hyn byddwch yn helpu i gefnogi'r broses o ddatblygu a chyflawni gweledigaeth gydweithredol dan arweiniad lleol a gwaith i sicrhau ei fod yn cael ei brif ffrydio o fewn polisïau ac ymarfer Llywodraeth Cymru.
Amcan y rôl:
Ar y cyd â sefydliadau a rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru, datblygu, ymchwilio ac arwain y broses o ddylanwadu ar bolisïau ar sail tystiolaeth, materion cyhoeddus a gweithgareddau ymgyrchu a fydd yn cefnogi'r gwaith o brif ffrydio prosesau ailwylltio mewn polisïau ac ymarfer yng Nghymru.
Ymysg eich cyfrifoldebau bydd y canlynol:
Sgiliau, profiad ac ymddygiadau:
Sgiliau a phrofiad
Hanfodol
Dymunol
Ymddygiad
Hanfodol
Nid yw'r disgrifiad swydd hwn yn hollgynhwysol a gall newid i adlewyrchu angen. Gellir adolygu eich dyletswyddau o bryd i'w gilydd a'u diwygio a'u diweddaru mewn ymgynghoriad â chi er mwyn adlewyrchu newidiadau priodol.
Telerau ac amodau a buddiannau staff
Mae hon yn rôl lawnamser i weithio 35 awr yr wythnos, ond rydym yn agored i geisiadau gan y rheini sy'n awyddus i weithio 28 awr neu fwy yr wythnos.
Mae'r cyflog yn £38k - £45k y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad perthnasol).
Bydd rhywfaint o ryddid i'r person bennu ei drefniadau gweithio ei hun bob wythnos, o fewn cyfyngiadau, cyhyd ag y caiff y gwaith ei gyflawni.
Mae cyflogeion Rewilding Britain yn cael 25 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn (pro rata ar gyfer rolau rhan amser), yn codi i 30 diwrnod dros bum mlynedd. Mae cynllun pensiwn hael gyda chyfraniad cyfatebol gan y cyflogwr hefyd ar gael.
Rydym yn dîm rhithiol sy'n gweithio o gartref a/neu mewn mannau cydweithio. Byddwn yn eich cefnogi i greu amgylchedd gweithio rhithiol addas. Cynhelir rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb ledled Prydain, felly mae parodrwydd i deithio gan aros dros nos yn achlysurol yn ddymunol.
Rydym yn bwriadu cynnal y cyfweliadau cyntaf dros Zoom ar 14 Mai 2024. Yna efallai y byddwn yn gwahodd ymgeiswyr dethol i gael ail gyfweliad wyneb yn wyneb.
Ceisiadau
Os ydych chi'n credu eich bod yn addas ar gyfer y rôl, anfonwch
Defnydd o ddulliau deallusrwydd artiffisial: Nid yw Rewilding Britain yn derbyn llythyrau eglurhaol, cyflwyniadau nac atebion i gwestiynau recriwtio y mae eu cynnwys wedi'i greu gan ddeallusrwydd artiffisial a byddwn yn sgrinio ar gyfer hyn fel rhan o'n proses recriwtio. Nid yw Rewilding Britain yn defnyddio dulliau deallusrwydd artiffisial i adolygu ceisiadau ymgeiswyr; pobl go iawn fydd yn adolygu ceisiadau ac yn llunio rhestr fer.
Cydraddoldeb mewn cyflogaeth: Caiff ymgeiswyr eu rhoi ar restr fer a'u dethol yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y swydd ni waeth beth fo'u hoedran, anabledd, statws o ran ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd, hil, crefydd neu gred, rhyw na chyfeiriadedd rhywiol.
Nid yw Rewilding Britain yn noddwr trwyddedig ar hyn o bryd. Caiff unrhyw gynnig cyflogaeth ei wneud yn amodol ar hawl ddilys i weithio yn y DU.