Jobs
>
Cardiff

    Ymgynghorydd Cyfathrebu - Cardiff, United Kingdom - BBC

    BBC
    BBC Cardiff, United Kingdom

    Found in: Talent UK C2 - 3 days ago

    Default job background
    Description

    Pecyn Swydd

    Band - C

    Cyflog : £27,500 - £32,083 y flwyddyn yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad

    Mae sgiliau yn yr Iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon / Welsh language skills are essential for this role

    Cyflwyniad i'r Swydd

    Ysgogi trafodaeth ynglŷn â chynnwys BBC Cymru Wales; datblygu a diogelu enw da BBC Cymru Wales; cynnal digwyddiadau creadigol o'r radd flaenaf, datblygu ein talent gwych ar y sgrin, ac oddi arno restr o ddyletswyddau ein tîm cyfathrebu corfforaethol bach, bywiog ac egnïol.

    Ydych chi'n gyfathrebwr o fri, ac yn chwilio am her newydd sydd wrth galon y byd darlledu yng Nghymru? Mae BBC Cymru Wales yn chwilio am unigolyn creadigol sy'n gallu cymell ei hun i ddarparu rhaglen o weithgareddau cyfathrebu wedi'u targedu. Byddwch yn nodi ac yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i hyrwyddo dealltwriaeth a chymeradwyaeth o ddiben a chyflawniadau'r BBC yn ogystal â defnyddio eich sgiliau digidol i rannu cynnwys a negeseuon allweddol.

    Rydym bob amser yn awyddus i wella'r ffordd rydym yn ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd allweddol ac rydym yn chwilio am aelod o'r tîm a fydd yn ymuno â ni i sicrhau ein bod yn darparu rhaglen wych o gyfathrebu arloesol a chyffrous.

    Prif Gyfrifoldebau

  • Byddwch yn arbenigwr yn eich maes, a byddwch yn defnyddio eich creadigrwydd a'ch menter i greu eich ymgyrchoedd eich hun i gyflwyno negeseuon pwysig ar draws amrywiaeth o lwyfannau ac i amrywiaeth o gynulleidfaoedd
  • Byddwch yn ymchwilio ac yn trefnu cyfleoedd yn y cyfryngau ac yn gorfforaethol gan ddefnyddio amrywiaeth o offer cyfathrebu
  • Byddwch yn arwain nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau, gan gymryd cyfrifoldeb am gynhyrchu a rheoli digwyddiadau bach a mawr ac arwain ar ddeunyddiau creadigol a ffynonellau
  • Byddwch yn creu cynnwys digidol ac ysgrifenedig creadigol a diddorol i rannu negeseuon am rôl BBC Cymru Wales fel y darlledwr cenedlaethol i gysylltiadau a rhanddeiliaid allweddol yn ogystal â chynnal a diweddaru cronfeydd data a chasglu adborth
  • Ai chi yw'r person cywir?

    Hanes llwyddiannus o weithio mewn amgylchedd cyfathrebu a chyflawni amrywiaeth o ymgyrchoedd

    Cefndir cryf o ran trefnu digwyddiadau o wahanol feintiau ac ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol

    Enghreifftiau rhagorol o gynhyrchu a chyhoeddi cynnwys digidol arloesol a chyffrous

    Profiad o ysgrifennu testunau gwych i'w cyhoeddi o fewn terfynau amser byr. Byddai profiad o gynhyrchu briffiau ysgrifenedig a chyflwyniadau wedi'u llunio'n dda hefyd yn fantais

    Trefnus iawn, gallu canolbwyntio a rhoi sylw trylwyr i fanylion. Gallu gweithio ar eich liwt eich hun a meithrin cysylltiadau cryf â rhanddeiliaid a thimau mewnol allweddol.


  • BBC

    Ymgynghorydd Cyfathrebu

    Found in: beBee S2 UK - 4 days ago


    BBC Cardiff, United Kingdom Full time

    Pecyn Swydd · Band - C · Cyflog : £27,500 - £35,000 y flwyddyn yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad · Mae sgiliau yn yr Iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon / Welsh language skills are essential for this role · Cyflwyniad i'r Swydd · Ysgogi trafodaeth ynglŷn â chynnwys BBC ...