Ceidwad Stordy - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer Caerdydd a'r Fro (CWO) yn awyddus i gyflogi Ceidwad Stordy wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF.

Mae tîm CWO y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a'r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu ac yn cynnal amrywiaeth eang o gymhorthion symud i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.
Mae offer yn cael ei archebu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel Nyrsys Ardal, Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion ac yn cynnwys amrywiaeth eang o eitemau, o welyau arbenigol a theclynnau codi i offer ystafell ymolchi ac offer eistedd a cherdded a ddefnyddir gan blant mewn ysgolion.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o'r safon orau.

**Am Y Swydd**
Byddwch yn rhan o dîm warws presennol y CWO yn cefnogi elfen logistaidd y gwasanaeth, gan gynnwys derbyn nwyddau, prosesu archebion prynu, gyrru wagen fforch godi, casglu nwyddau i'w danfon ac ati. Bydd pob cais am cyflenwi/gosod yn cael eu cychwyn gan aelod tîm clinigol yn dilyn asesiad o anghenion y cleient, caiff archeb gyflenwi ei phrosesu gan dîm gweinyddu'r CWO a chaiff yr offer ei gasglu i'w ddosbarthu gan dîm o osodwyr mewnol.

Oriau craidd y gwasanaeth hwn yw 8am - 4pm o Ddydd Llun i Ddydd Iau ac 8am - 3:30pm ar Ddydd Gwener.

Swydd ran amser am 22.5 awr yr wythnos yw hon.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae'r swydd yn un gorfforol a bydd angen i chi allu cyflawni ystod eang o weithgareddau codi a chario (codi, tynnu, gwthio ac ati).

Mae'r holl amserlenni gwaith yn cael eu rheoli gan ddefnyddio dyfeisiau llaw felly mae dealltwriaeth o dechnoleg / apiau symudol yn hanfodol. Byddai trwydded yrru lawn yn fanteisiol oherwydd gallai fod angen i'r Ceidwad Stordy gefnogi'r tîm gosod mewnol o bryd i'w gilydd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Swydd ran amser yw hon, a bydd y deiliad yn gweithio 22.5 awr yr wythnos ar ddyddiau Llun, Mawrth a Mercher.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â Sean Hall - Rheolwr Warws

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o nodau - gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw'n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae'r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio llwyfan ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â

Sean Hall - Rheowr Warws

Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw Ymgeisio
- Gwneud cais am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion

Job Reference: PEO03538

More jobs from Cardiff Council