Jobs
>
Carmarthen

    Clerc Cyllid - Carmarthen, United Kingdom - Carmarthenshire County Council

    Carmarthenshire County Council
    Carmarthenshire County Council Carmarthen, United Kingdom

    Found in: Talent UK C2 - 4 days ago

    Default job background
    Description

    Description

    Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig a brwdfrydig lenwi swydd o fewn yr Adain Incwm, sy'n wasanaeth rheng flaen gyda chyfrifoldeb dros anfonebu a chasglu incwm amrywiol (Mân Ddyledion) sy'n daladwy i'r Cyngor. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson brwdfrydig ac ymroddedig sy'n gweithio'n dda mewn tîm a bydd yn meddu ar sgiliau da o ran trefnu, cyfathrebu ac ymwneud ag eraill, a phrofiad o ymdrin â chwsmeriaid, yn ddelfrydol mewn gweithle prysur lle derbynnir arian i gyfrifon. Mae'r Cyngor yn gweithredu system anfonebu gyfrifiadurol gwbl integredig, felly mae ymagwedd hyderus at weithio â systemau TG yn hanfodol. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gyflogwr Buddsoddwyr mewn Pobl achrededig. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion i'n gweithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn hael, dyraniad da o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc, trefniadau gweithio hyblyg a hybrid, cynllun buddion staff a gwasanaethau cymorth iechyd a llesiant. Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi. Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Thomas ar

    Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd. Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.