Cynorthwy-ydd Gofal Preswyl - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**
Cartref Preswyl Southway ar Gyfer Pobl Hŷn - Y Bont-faen

Ein nod a'n hamcan yw gwella profiad bywyd ein preswylwyr a'u llesiant cyffredinol trwy ddarparu gwasanaeth o ansawdd mewn amgylchedd diogel a chartrefol, gyda gofal a chymorth sy'n seiliedig ar werth, yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac sydd fwyaf priodol i'r unigolyn.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion am gyflog: Gradd 3, PCG 4 £21,189 y.f. pro rata, £10.98/hr + telir ychwanegiadau am weithio ar benwythnosau a gwyliau banc ac am weithio oriau anghymdeithasol

Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio:
V/CC/PY633 = 32.8 awr / 5 diwrnod yr wythnos

V/CC/PY644 = 32.8 awr / 5 diwrnod yr wythnos

V/CC/PY638 = 26.3 awr / 4 diwrnodd yr wythnos

Prif Waith: Southway, Y Bont-faen

**Disgrifiad**:
Darparu gofal a chefnogaeth bersonol, emosiynol a chorfforol mewn lleoliad preswyl i bobl hŷn a phobl hŷn sy'n byw gyda dementia. Gweithio yn unol â pholisïau a phrosesau y cytunwyd arnynt a chyfrannu at gynllunio ac adolygu'r gofal, cofnodi gwybodaeth yn fanwl gywir a rhoi moddion yn ofalus.

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o ddarparu gofal personol sy'n canolbwyntio ar y person, cefnogaeth gyda thasgau byw o ddydd i ddydd a chefnogaeth emosiynol i oedolion agored i niwed
- Gallu cyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Parodrwydd i gymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithio tuag at gymhwyster galwedigaethol proffesiynol

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Manwl

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Colette Rees

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: SS00644

More jobs from Vale of Glamorgan Council