Swyddog Pontio Atgyfeiriadau Ymarfer Corff - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Amdanom ni**
Bydd y swydd hon yn rhan o adran Atgyfeiriadau Ymarfer Corff y Tîm Byw'n Iach. Mae'r Cynllun Atgyfeiriadau Ymarfer Corff yn helpu unigolion â phroblemau iechyd i ddod yn fwy actif. Mae'r fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn galluogi'r preswylwyr sydd â chyflyrau meddygol penodol i gael eu hatgyfeirio i'r Cynllun Atgyfeiriadau Ymarfer Corff gan eu meddygon i wella eu ffordd o fyw drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 6, PCG 14-19, £25,409 - £27,852

Oriau gwaith / patrwm gweithio: 37 awr yr wythnos i gynnwys gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau yn ôl y gofyn

Prif Weithle: Bydd y swyddfa yn y Barri ond bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio mewn amryw leoliadau ar draws y Fro

Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Ariennir y swydd hon drwy gyllid allanol a gadarnhawyd tan 31/3/23

**Disgrifiad**:
Prif swyddogaeth y rôl fydd datblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer cyfranogwyr sy'n gadael y Cynllun Atgyfeiriadau Ymarfer Corff Cenedlaethol i gyfleoedd gweithgareddau corfforol cymunedol. Bydd gofyn i chi sefydlu a chynnal cysylltiadau rhwng grwpiau gweithgareddau corfforol cymunedol ac yna nodi a chefnogi cleientiaid wrth iddynt drosglwyddo o ddosbarthiadau atgyfeiriadau ymarfer corff i ddarpariaeth yn y gymuned i sicrhau cyfranogiad parhaus. Byddwch yn cynorthwyo i werthuso a chasglu data sy'n gysylltiedig â'r cynllun hwn gan ymgymryd ag olrhain astudiaethau achos i fesur effaith hirdymor. Byddwch hefyd yn archwilio nifer y cleientiaid sy'n gadael y cynllun a'u cyfeirio at gyfleoedd amgen lle bo'n briodol. Bydd eich rôl hefyd yn cynnwys cynnig amrywiaeth o weithgareddau corfforol o safon uchel i unigolion sy'n cael eu hatgyfeirio i'r Cynllun Atgyfeiriadau Ymarfer Corff sy'n flaengar ac yn adlewyrchu anghenion y cleientiaid.

**Amdanat ti**

Bydd angen:

- Profiad o weithio gyda sefydliadau yn y gymuned i ddatblygu a chynyddu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau corfforol.
- Profiad o gydlynu, datblygu a chynllunio gweithgareddau corfforol o fewn ystod eang o amgylcheddau gan gynnwys lleoliadau cymunedol
- Profiad o reoli projectau gan gynnwys ysgrifennu, monitro a gwerthuso cynlluniau projectau
- 2 flynedd o brofiad mewn amgylchedd iechyd a ffitrwydd, gan gynnwys cyflwyno a chynnig gwasanaethau iechyd a ffitrwydd i'r cyhoedd
- Profiad o gynnal sesiynau grŵp
- Cymhwyster Gwaith Grŵp / Campfa Lefel 2
- Cymhwyster Hyfforddwr Uwch Lefel 3
- Cymhwyster Atgyfeirio Ymarfer Corff Lefel 3 neu'n gweithio tuag ato
- Cymhwyster Lefel 4 neu'n gweithio tuag ato
- Cymhwyster Cymorth Cyntaf
- Aelod o'r Gofrestr Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol
- Dealltwriaeth o'r rhwystrau i gymryd rhan a'r gallu i edrych ar syniadau arloesol i'w goresgyn
- Gwybodaeth ardderchog am brofi ymarferion ffitrwydd a rhoi cynlluniau ymarfer corff i gleientiaid sy'n cael atgyfeiriad ymarfer corff.
- Gwybodaeth am gyflwyno sesiynau ymarfer corff i gleientiaid â gallu gwahanol a phrofiad o raddio ymarfer corff i weddu i unigolion.
- Y gallu i feithrin perthnasau â sefydliadau partner a grwpiau cymunedol
- Profiad o gynnig cyfarwyddyd ffitrwydd a theilwra rhaglenni i gleientiaid

**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Gallu gweithio gyda'r hwyr ac ar benwythnosau
- Gallu gyrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo'n briodol
- Parodrwydd i weithio mewn gwahanol leoliadau

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodol i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00384

More jobs from Vale of Glamorgan Council