Cynorthwy-ydd Ardrethi - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae swydd wag wedi codi yn y Tîm Ardrethi Busnes. Mae Cyngor Caerdydd yn casglu mwy na £170m yn flynyddol mewn ardrethi busnes gan tua 13,000 o fusnesau yng Nghaerdydd. Mae'r tîm hefyd yn casglu ardoll Ardal Gwella Busnes gan fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghanol y Ddinas a'r cyffiniau.
**Am Y Swydd**
Mae hon yn swydd uwch yn y Tîm Ardrethi Busnes. Mae hwn yn dîm bach sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir. Cynigir gweithio hybrid, a bydd disgwyl i chi fynd i'r swyddfa ddau ddiwrnod yr wythnos. Bydd disgwyl i chi fynychu gwrandawiadau llys ynadon at y diben o gael gorchmynion dyled sawl gwaith y flwyddyn.

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd sicrhau bod y gronfa ddata bilio yn gywir ac wedi ei mantoli â'r Rhestr Prisio. Byddwch yn asesu atebolrwydd i dalu ardrethi a chynorthwyo gyda chyhoeddi biliau yn brydlon a chasglu'r ardrethi sy'n ddyledus. Bydd disgwyl i chi ddelio ag ymholiadau cymhleth gan drethdalwyr drwy e-bost a thros y ffôn.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rhaid i chi fod â phrofiad o weithio mewn amgylchedd trethiant lleol a rhaid i ymgeiswyr ddangos dull trefnus a gofalus o weithio. Dylai fod gennych brofiad o weithio mewn rôl brysur sy'n delio'n uniongyrchol â chwsmeriaid a dylech fod yn hyderus wrth ymgysylltu â chwsmeriaid.

Mae sgiliau rhyngbersonol effeithiol yn hanfodol oherwydd yr amrywiaeth o unigolion a sefydliadau y byddwch yn rhyngweithio â nhw.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn destun gwiriadau Sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_._

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES01219

More jobs from Cardiff Council