Swyddog Derbyniadau - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Cyf: 12358**

**Teitl y Swydd**:Swyddog Derbyniadau**

**Contract**:Llawn Amser, Parhaol**

**Cyflog: £27,227 - £29,551**

**Oriau**: 37 Awr yr wythnos**

**Lleoliad**:Caerdydd a'r Fro**

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn chwilio am nifer o Swyddogion Derbyniadau i weithio o fewn ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi dysgwyr gyda'r broses Dderbyniadau ac yn cynnig cyngor ac arweiniad diduedd i'r holl ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol. Byddwch yn gweithio'n agos gydag adrannau'r cwricwlwm a sicrhau eu bod yn deall yn llawn eu statws a chynnydd recriwtio drwy'r amser. Mynd i'r afael ag ystod lawn o ymholiadau sy'n ymwneud â phob cam ar y broses dderbyn, o geisiadau hyd at ymrestru.

Yn ychwanegol, byddwch yn:

- Cynnal ffeiliau ymgeiswyr cywir a chyfredol ar EBS sy'n nodi taith recriwtio'r ymgeisydd. Yn ogystal, cynnal logiau cyswllt cywir a mewnbynnu data ar gyfer ceisiadau
- Gweinyddu a sgrinio ymgeiswyr fel sy'n briodol a chyfeirio darpar fyfyrwyr, fel sy'n briodol, at wasanaethau arbenigol, megis Gyrfa Cymru, Cymorth Dysgu, Llesiant etc
- Prosesu negeseuon e-bost a / neu lythyrau cydnabod ar gyfer ymgeiswyr
- Cyfarfod a chyfarch ymgeiswyr mewn digwyddiadau a nosweithiau agored. Cynrychioli a hyrwyddo'r gwasanaeth mewn ystod o ddigwyddiadau'r coleg, gan gynnwys Diwrnodau Agored a Ffeiriau Gyrfaoedd AU
- Darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am yr ystod lawn o gyrsiau sydd ar gael yn y coleg dros y ffôn, e-bost, Sgwrs Fyw ac wyneb yn wyneb. Cefnogi ymgeiswyr i ganfod a sicrhau cynnig o gwricwlwm amgen, fel bo'n briodol

Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus gefndir addysgol cadarn (gradd neu gyfwerth) neu brofiad cymesur amlwg. Byddai cymhwyster Lefel 4 neu gyfwerth mewn Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad yn fanteisiol, ond nid yn ofynnol, ar gyfer y swydd.

Er nad yw'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd, byddem yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n rhugl yn y Gymraeg ac sy'n gallu ymwneud â myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn gyfnewid am eich gwaith caled a'ch ymroddiad i'n dysgwyr, rydym yn cynnig ystod eang o fuddion gan gynnwys cynllun pensiwn hael, cynllun arian parod, rhaglen cymorth i weithwyr, cynllun Beicio i'r Gwaith, ap Headspace, a mynediad at dechnegau arbed arian drwy'r cynllun Porth Gwobrwyo.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 31/05/2024 12:00pm**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr ar eich penodiad.

Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun hyderus o ran anabledd.

More jobs from Cardiff and Vale College