Technegydd Teilsio - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

    Cardiff and Vale College
    Cardiff and Vale College Cardiff, United Kingdom

    Found in: Talent UK C2 - 1 week ago

    Default job background
    Permanent
    Description

    Swydd Wag Fewnol / Allanol

    Cyf: CTT2024

    Teitl y Swydd: Technegydd Teilsio

    Contract: Llawn Amser, Parhaol

    Cyflog: £23,152 - £23,930 y flwyddyn

    Oriau: 37 awr yr wythnos

    Lleoliad: Campws Canol Dinas Caerdydd

    Mae swydd wag gyffrous ar gael ar gyfer Technegydd Teilsio yn yr adran Gwasanaethau Adeiladu yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi'i lleoli ar Gampws Canol y Ddinas.

    Mae'r cyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Chwarae rhan weithredol yn yr holl sesiynau ymarferol sydd wedi'u trefnu o fewn oriau gwaith y contract a chynnig cefnogaeth i staff mewn perthynas ag adnoddau a chyfarpar er mwyn galluogi'r sesiynau hyn i redeg yn ddidrafferth.
  • Cynnal gweithdrefnau er mwyn defnyddio cyfleusterau adrannau'n effeithiol ac effeithlon.
  • Cynorthwyo staff darlithio gyda pharatoi deunyddiau a chyfarpar ar gyfer gweithgareddau myfyrwyr.
  • Sicrhau bod cyflenwadau digonol o ddeunyddiau, cyfarpar ac offer ar gael pan fo'u hangen.
  • Datgysylltu gwaith myfyrwyr a chadw deunyddiau er mwyn eu defnyddio yn y dyfodol.
  • Cadw cofnod rheolaidd o offer, cyfarpar etc. a chynorthwyo staff darlithio i sicrhau diogelwch cyffredinol o fewn yr adran.
  • Cynorthwyo gyda'r gwaith o wirio stoc a diweddaru cofnodion stoc yn flynyddol.
  • Cynnal archwiliadau cynnal a chadw cyffredinol cyson.
  • Cynorthwyo gyda'r gwaith o sicrhau amgylchedd gweithio diogel ym mhob ardal ddynodedig. Mae'r ddyletswydd hon yn cynnwys profi dyfeisiau cludadwy (PAT), rheoliadau COSHH ac unrhyw reoliadau fydd y Coleg angen eu cyflwyno yn y dyfodol, ynghyd â gweithdrefnau cofnodi cysylltiedig.
  • Cynorthwyo staff darlithio wrth iddynt baratoi deunyddiau addysgu cwrs, ac wrth ddatblygu a chyflwyno'r cwricwlwm fel aelod o'r tîm. Cynorthwyo gyda datblygiadau cyffredinol.
  • Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol, ond byddai'n ddymunol eu cael ar gyfer y swydd hon
  • Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

    Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 02/05/2024 am 12:00pm.

    Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais ewch i neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio neu anfonwch e-bost i

    Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

    Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.

    Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.