Uwch Gynrychiolydd Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

2 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Ganolfan Gyswllt arobryn ac uchel ei pharch, yn cynnig ymateb sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i ymholiadau ynghylch ystod o wasanaethau'r Cyngor gan drigolion Caerdydd a defnyddwyr gwasanaeth eraill drwy sawl cyfrwng gan gynnwys dros y ffôn, cyswllt dros y we, sgyrsiau ar y we, SgyrsBot, e-bost, negeseuon llais a thestun. Os ydych yn frwd dros sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a bod gennych agwedd gadarnhaol, dyma gyfle gyrfaol i chi.

**Am Y Swydd**
Bydd angen i ddeiliad y swydd gynorthwyo a chynnig cyngor i amrywiaeth eang o gwsmeriaid ac aelodau o'r tîm a bydd yn gweithio gyda'r goruchwylydd i sicrhau bod y rhan fwyaf o ymholiadau cwsmeriaid yn cael eu datrys ar y cyswllt cyntaf a bod y lefel gofal cwsmeriaid uchaf yn cael ei chyflawni.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio'n dda mewn tîm, yn manteisio i'r eithaf ar dechnoleg gwybodaeth mewn amgylchedd sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf, ac yn meddu ar y gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau gwaith cynhyrchiol gyda phob gwasanaeth i sicrhau bod cymaint o alwadau â phosibl yn cael eu datrys ar y cyswllt cyntaf i foddhad cwsmeriaid.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae hwn yn secondiad 2 flwyddyn

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw'n is nag RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.

Mae'r Ganolfan Gyswllt yn ateb galwadau rhwng 8.30am a 8pm (6pm ar hyn o bryd) o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae patrwm shifftiau priodol ar waith. Fodd bynnag, gallai'r oriau/diwrnodau gwaith hyn newid.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gweithio presennol, nid ydym yn medru darparu pecynnau recriwtio neu dderbyn ffurflenni ymgeisio trwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES00934

More jobs from Cardiff Council