Darlithydd Rheweiddio, Aerdymheru a Phympiau Gwres - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

    Default job background
    Permanent
    Description

    Swydd Wag Fewnol / Allanol

    Teitl y Swydd: Darlithydd Rheweiddio, Aerdymheru a Phympiau Gwres

    Contract: Llawn Amser, Parhaol

    Oriau: 37

    Cyflog: £24,051 - £47,333 y flwyddyn, yn seiliedig ar brofiad

    Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Darlithydd Rheweiddio, Aerdymheru a Phympiau Gwres yn adran Gwasanaethau Adeiladu Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon wedi'i lleoli ar wahanol gampysau.

    Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:

  • Ymgymryd â'r holl waith addysgeg, fel paratoi gwersi, gweithdai a pharatoi gweithdai ymarferol, addysgu yn yr ystafell ddosbarth, addysgu mewn gweithdai, gwaith tiwtorial a marcio.
  • Paratoi gweithdai, fel cadw'r holl offer, deunyddiau, a chyfarpar mewn cyflwr pwrpasol.
  • Cynnal asesiadau i fyfyrwyr er mwyn lleoli myfyrwyr, monitro cynnydd ac adnabod anghenion cymorth dysgu
  • Darparu cymorth priodol i fyfyrwyr er mwyn diwallu anghenion academaidd a llesiant dysgwyr a sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i chofnodi ar y systemau Coleg priodol
  • Ymgymryd â gwaith sefydliadol a gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r uchod. Mae hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, mynychu cyfarfodydd tîm, cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu proffesiynol ac arfarniadau staff, cynnal cofnodion yn gysylltiedig ag addysgu cywir yn cynnwys manylion asesu a phresenoldeb
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau gwerthuso cwrs a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm
  • Ymwneud â marchnata, h.y. adnabod gofynion defnyddwyr, creu deunyddiau hyrwyddo priodol a gweithio ag asiantaethau allanol lle bo'n briodol
  • Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon, ond nid yw'n hanfodol.
  • Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

    Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 26/04/2024 yr 12:00pm.

    I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio neu anfonwch e-bost at

    Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

    Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.

    Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.