Athro/Athrawes - Ysgol Y Dderwen - Carmarthen, United Kingdom - Carmarthenshire County Council
Description
Description
Swydd dros dro yn ystod cyfnod mamolaeth. I ddechrau MediMae Pennaeth a Chorff Llywodraethol yr ysgol hapus a llwyddiannus hon yn dymuno penodi athro/athrawes ymroddedig a brwdfrydig.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau addysgu a dysgu rhagorol, yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol da, i fod yn rhan o'r tîm sy'n cynnal safonau uchel yr ysgol.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru cyn cael ei benodi.
Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Dylan Evans ar /
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.