- Cefnogi ymgeiswyr sy'n gweithio tuag at ennill cymhwyster
- Cefnogi gyda darpariaeth gwybodaeth greiddiol yn y gweithle neu drwy weithdai
- Sicrhau bod ymgeiswyr yn bodloni'r safonau gofynnol i gyflawni eu cymwysterau fel y nodwyd gan y Sefydliad Dyfarnu. Cyflawnir hyn drwy adnabod tystiolaeth ddilys, ddibynadwy, ddiweddar a digonol o fodloni safonau'r cymhwyster, a beirniadu'r dystiolaeth briodol yn erbyn y safonau cenedlaethol.
- Sicrhau bod targedau'r Coleg parthed ymrestru, presenoldeb, cadw myfyrwyr, llwyddiant, a boddhad myfyrwyr yn cael eu bodloni, yn unol â dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) y Coleg.
- Gweithio o fewn fframwaith ansawdd y rhaglen er mwyn sicrhau bod ymgeiswyr yn cyflawni eu cymhwyster yn llwyddiannus, a hynny mewn da bryd.
- Cynorthwyo wrth baratoi ac ymateb i ymweliadau dilysu allanol (EV).
- Cynorthwyo wrth baratoi ac ymateb i ymweliadau dilysu allanol (EV).
- Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Aseswr Rheweiddio ac Aerdymheru - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College
Description
Swydd Wag Fewnol / Allanol
Cyf: 12189
Teitl y Swydd: Aseswr Rheweiddio ac Aerdymheru
Contract: Llawn Amser, Parhaol
Oriau: 37
Cyflog: £33,897 - £36,154 y flwyddyn
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Aseswr Rheweiddio ac Aerdymheru yn yr adran Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Lleolir y rôl hon ledled gwahanol gampysau.
Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:
Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 25/04/2024 yr 12:00pm.
I gael gwybod mwy neu i wneud cais ewch i neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio neu anfonwch e-bost i
Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.
Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.