Jobs
>
Cardiff

    Swyddog Ymgysylltu - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

    Cardiff and Vale College
    Cardiff and Vale College Cardiff, United Kingdom

    Found in: Talent UK C2 - 1 week ago

    Default job background
    Description

    Swydd Wag Fewnol / Allanol

    Cyf: 12331

    Teitl y Swydd: Swyddog Ymgysylltu (Rhaglen Multiply)

    Contract: Contract Cyfnod Penodol tan fis Mawrth 2025, Llawn Amser

    Lleoliad: Heol Colcot, Y Barri

    Oriau: 37

    Cyflog: £27,227 - £29,551 pro rata (yn ddibynnol ar brofiad)

    Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Ymgysylltu i gefnogi'r rhaglen Multiply, yn bennaf ar draws ein campysau Bro Morgannwg, ond gyda'r disgwyliad i gyflenwi ar ein campysau canol y ddinas yn ôl yr angen. Mae'r rhaglen Multiply yn canolbwyntio ar gefnogi oedolion sy'n ddysgwyr (19+ oed) gyda'u sgiliau rhifedd ar gyfer gwaith neu fywyd bob dydd.

    Bydd deiliad y swydd yn ehangu'r ddarpariaeth drwy gefnogi:

  • Recriwtio a chadw dysgwyr,
  • Ymgysylltiad ehangach y gymuned â'r rhaglen mewn digwyddiadau/gweithdai.
  • Datblygiad gweithio mewn partneriaeth i wella'r cynnig cwricwlwm.
  • Datblygiad dysgwyr i gyrsiau pellach (rhan amser /llawn amser)
  • Marchnata a hyrwyddo cyfleoedd a llwyddiannau Multiply ledled y sefydliad.
  • Bydd gennych brofiad o weithio gyda phobl ifanc ac oedolion sy'n ddysgwyr, sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth neu sy'n chwilio am ail gyfle yng nghyd-destun addysg. Yn ogystal â hyn, bydd gennych brofiad amlwg o weithio ar draws sefydliadau a chydweithio ag asiantaethau partneriaid allanol. Bydd gennych gefndir addysgiadol cryf a byddai cefndir fel anogwr dysgu neu mewn gwaith ieuenctid/cymunedol hefyd yn fanteisiol.

    Yn gyfnewid, rydym yn cynnig buddion gwych gan gynnwys cynllun pensiwn hael, mynediad at ostyngiadau amrywiol fanwerthwyr Ar-lein ac ar y Stryd Fawr drwy ein cynllun Porth Gwobrwyo, Cynllun Arian Parod a mynediad at lwybrau gyrfa cyffrous yn y coleg.

    Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

    Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

    Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 03/05/2024 am 12:00pm. Cynhelir y cyfweliadau ar: 25/04/24

    Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais ewch i neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol drwy ffonio neu anfonwch e-bost i

    Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

    Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.

    Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.


  • PAPYRUS Prevention of Young Suicide

    Community Development Officer – Wales

    Found in: Talent UK C2 - 1 day ago


    PAPYRUS Prevention of Young Suicide Wales, United Kingdom Full time

    More details · Swyddog Datblygu Cymunedol-Cymru · Rydym am recriwtio Swyddog Datblygu Cymunedol dwyieithog yng Nghymru. Bydd y rôl hon yn ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, gan ddarparu cymorth, hyfforddiant ac addysg wedi'u teilwra i greu cymunedau mwy diogel ...

  • Welsh Parliament

    Events and Engagement Officer

    Found in: beBee S2 UK - 4 days ago


    Welsh Parliament Cardiff, United Kingdom Full time

    Welsh Parliament / Senedd Cymru · Post Title: Events and Engagement Officer · Pay Band: £27,365 - £32,841 (Management Band 3 – EO) · Please note, the starting salary will normally be offered at the minimum of the band. · Location: Agile · This role will be agile, with a mixture ...

  • Advocacy Support Cymru ASC

    Service User/ Volunteer Engagement Officer

    Found in: Jooble UK O C2 - 5 days ago


    Advocacy Support Cymru ASC Cardiff, United Kingdom Part time

    Ariennir y prosiect hwn gan Gynllun Prif Grantiau Gwirfoddoli Cymru Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan CGGC · This project is funded by Welsh Government's Volunteering Wales Main Grants Scheme, administered by WCVA · About the role · ​'Gyda'n Gilydd', which translates as 'Togethe ...