Swyddog Cwynion a Chyfathrebu - Cardiff, United Kingdom - Cardiff County Council

    Cardiff County Council
    Cardiff County Council Cardiff, United Kingdom

    Found in: Talent UK 2 C2 - 1 week ago

    Default job background
    Description
    Ynglŷn â'r Gwasanaeth

    Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cwynion a Chyfathrebu.

    Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cyfathrebu effeithiol, gan ymateb i gwynion ac ymholiadau ar gyfer y Tîm Ansawdd ac Apeliadau.

    Ynglŷn â'r Swydd

    Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gallu gweithio i derfynau amser llym a bod yn hynod hyblyg. Bydd gennych brofiad o weithio gyda systemau TG, ac mae'r gallu i weithio fel rhan o dîm yn hanfodol.

    Byddwch yn gyfrifol am ddrafftio ymatebion o ansawdd uchel i gwynion gan aelodau'r cyhoedd, ac ymatebion i ymholiadau gan Gynghorwyr, Aelodau'r Senedd ac Aelodau Seneddol.

    Yr hyn rydym yn gofyn gennych chi

    Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i ddrafftio gohebiaeth ysgrifenedig ardderchog ar gyfer y Tîm Cwynion, y Tîm Adolygu ac Apeliadau o fewn Tai a Chymunedau.

    Gwybodaeth ychwanegol

    Swydd dros dro yw hon tan Mawrth .

    Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC ( Dim ond y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw'n is na RhG, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.

    Mae'r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
    Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

    Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

    Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, e-bostiwch Tim Wynne, yn .

    Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

    Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

    •Canllaw ar Wneud Cais

    •Ymgeisio am swyddi gyda ni

    •Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
    Gwybodaeth Ychwanegol:-

    •Siarter Cyflogeion

    •Recriwtio Cyn-droseddwyr

    •Hysbysiad Preifatrwydd