Uwch weithiwr cymorth arbenigol - Llanelli, United Kingdom - Carmarthenshire County Council

    Carmarthenshire County Council
    Carmarthenshire County Council Llanelli, United Kingdom

    1 week ago

    Default job background
    Description

    Description

    30 awr yr wythnos. Cyfradd yr awr £14.79 – £16.95 (Gradd F) Cynhwysol 8% pro rata Mae Tir Einon yn Wasanaeth Anableddau Dysgu arobryn sydd wedi'i leoli yn Llanelli sy'n cynnig lle bywiog a hapus i weithio gyda thîm profiadol a chroesawgar. Rydym yn cynnig seibiannau byr i oedolion ag anableddau dysgu, ac fel arfer rydym yn brysur yn gweithio gyda llawer o wahanol bobl, nid oes unrhyw ddiwrnod byth yr un fath, ac os yw rhoi gwên ar wyneb rhywun yn gwneud eich diwrnod yna dyma'r swydd i chi Mae staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn derbyn gwyliau hael, tâl salwch a phensiwn ynghyd â buddion gweithwyr eraill fel y nodir ar ein tudalen we. Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol, cadarnhaol a brwdfrydig sydd â phrofiad o arwain tîm mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn tra'n cynnal safonau. Gallu cefnogi a dirprwyo pan fo'n briodol yn absenoldeb rheoli gwasanaethau, darparu arweiniad a chymhelliant i'r tîm staff, hyrwyddo arfer da, a safonau uchel o gefnogaeth a gofal. Bydd gofyn i chi oruchwylio acarfarnu staff gan ddefnyddio polisi a gweithdrefnau'r awdurdod lleol, a gweithio'n hyblyg ag anghenion pobl, gan gysylltu â rhieni, gofalwyr a staff ac asiantaethau eraill. Bydd gofyn i chi ysgrifennu, adolygu a diweddaru cynlluniau ac asesiadau risg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gan hyrwyddo cefnogaeth ymddygiad cadarnhaol, cefnogaeth weithredol, a rhyngweithio dwys, gan sicrhau bod y tîm staff yn deall ac yn gweithio'n gyson yn dilyn ymyriadau ysgrifenedig. Bydd eich sifftiau'n batrwm rheolaidd ar rota dreigl i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd gwaith a bydd hyn yn cynnwys rhai penwythnosau a gyda'r nos.

    Mae angen gwybodaeth sylfaenol o'r Gymraeg i gyflawni'r swydd hon. Gellir darparu cefnogaeth ar apwyntiad i gyrraedd y lefel hon.
    Am fwy o wybodaeth neu sgwrs am y swydd uchod, cysylltwch â:

    Jill Cowdry

    Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

    Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd. Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.