Cynorthwyydd Cyngor Ac Arweiniad Ar y Campws - Cardiff, United Kingdom - Cardiff and Vale College

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Teitl y Swydd**:Cynorthwyydd Cyngor ac Arweiniad ar y Campws**

**Contract**:Llawn Amser, Parhaol**

**Cyflog: £24,379 - £26,563 pro rata**

**Oriau**: 37 Awr yr wythnos**

**Lleoliad**:Caerdydd a'r Fro**

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn chwilio am Gynorthwyydd Cyngor ac Arweiniad Campws i'w leoli'n bennaf yn un o'n safleoedd ar Heol Dumballs, Caerdydd ond bydd disgwyl iddo gyflenwi mewn safleoedd eraill yn ôl yr angen. Mae'r academi wedi ei leoli dros ffordd i fynedfa gefn gorsaf drenau Caerdydd Canolog. Bydd ein Cynorthwywyr Cyngor ac Arweiniad ar y Campws yn darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol i'n holl randdeiliaid wrth gynnal gwasanaeth croesawgar, dymunol a phroffesiynol yn y ganolfan Gyngor / derbynfa.

Fel rhan o'r swydd, byddwch yn:

- Cynnal gwasanaeth dderbynfa groesawgar, ddymunol a phroffesiynol, gan gadw'r dderbynfa yn daclus a derbyniol bob amser.
- Cwrdd a chroesawu ymwelwyr i'r Coleg, dosbarthu pasys i ymwelwyr, a'u cyfeirio fel sy'n briodol
- Ymateb yn effeithiol ac yn effeithlon i'r holl sianelau cyfathrebu yn ôl yr angen.
- Ymdrin â'r holl ymholiadau yn gwrtais a chymwynasgar; gallai'r ymholiadau hyn fod drwy e-bost, Sgwrs Fyw, galwad ffôn neu wyneb yn wyneb.
- Datrys ymholiadau yn y lle cyntaf, os yn bosib, neu gyfeirio ymholiadau ymwelwyr a dysgwyr i'r unigolyn mwyaf addas er mwyn eu hateb a'u datrys.
- Ateb ymholiadau a darparu gwybodaeth ynghylch yr amrywiaeth llawn o gyrsiau a gynigir yn y Coleg dros y ffôn, e-bost, ac i'r bobl hynny sy'n dod i'r dderbynfa.
- Cofnodi ceisiadau a diweddaru cofnodion ar EBS, gan gynnwys logiau cyswllt, yn ôl y gofyn.
- Cyfarfod a chyfarch ymgeiswyr mewn digwyddiadau a nosweithiau agored. Cynrychioli a hyrwyddo'r gwasanaeth mewn ystod o ddigwyddiadau'r coleg, gan gynnwys Diwrnodau Agored a Ffeiriau Gyrfaoedd AU

Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus gefndir addysgol cadarn mewn TGAU Mathemateg a Saesneg o leiaf, yn ogystal â phrofiad cymesur amlwg. Byddai cymhwyster Lefel 4 neu gyfwerth mewn Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad yn fanteisiol, ond nid yn ofynnol, ar gyfer y swydd.

Er nad yw'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd, byddem yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n rhugl yn y Gymraeg ac sy'n gallu ymwneud â myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn gyfnewid am eich gwaith caled a'ch ymroddiad i'n dysgwyr, rydym yn cynnig ystod eang o fuddion gan gynnwys cynllun pensiwn hael, cynllun arian parod, rhaglen cymorth i weithwyr, cynllun Beicio i'r Gwaith, ap Headspace, a mynediad at dechnegau arbed arian drwy'r cynllun Porth Gwobrwyo.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a'r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Llun 29/03/2024 yr 12:00pm**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr ar eich penodiad.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun hyderus o ran anabledd.

More jobs from Cardiff and Vale College