Rheolwr Gwasanaeth Interniaeth  Chymorth - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Gwasanaeth Cynhwysiant yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda, yn cefnogi ac yn cydlynu darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, eu teuluoedd a lleoliadau addysg i sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at eu hawl. Mae hyn yn cynnwys cefnogi trosglwyddiadau llyfn i ystod o leoliadau neu lwybrau yn seiliedig ar eu nodau a'u dyheadau.

**Am Y Swydd**
Mae'r tîm ADY ôl-16 yn rhan o'r gwasanaeth cynhwysiant ac yn gweithio ar y cyd ag Ymrwymiad Caerdydd i fwrw ymlaen â llwybrau cyflogaeth a chanlyniadau i bobl ifanc ag ADY. Yn 2021, fe wnaethom ymuno â Chyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gyflwyno rhaglen interniaeth â chymorth yn Ysbyty'r Mynydd Bychan a oedd yn darparu llwybr llwyddiannus i gyflogaeth i bobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Yn sgil ehangu'r rhaglen, mae cyfle cyffrous wedi codi i Reolwr Gwasanaeth Interniaeth â Chymorth Pobl Ifanc weithio gyda'r Tîm ADY ôl-16 ac Ymrwymiad Caerdydd. Mae'r rôl hon yn cynnwys:

- Chwarae rhan ganolog mewn grymuso pobl ifanc ag anableddau dysgu i gyflawni eu dyheadau gyrfa.
- Cydlynu gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid presennol a newydd (gan gynnwys cyflogwyr lleol a lleoliadau addysg) i greu cyfleoedd interniaeth cynhwysol a chefnogol.
- Goruchwylio a rheoli ystod o interniaethau â chymorth, rhoi prosesau monitro effeithiol ar waith i adolygu eu llwyddiant, a gwneud gwelliannau strategol a gweithredol i gynyddu nifer y bobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sy'n dod i mewn i'r gweithle a chyflawni canlyniadau cyflogaeth cynaliadwy sy'n bodloni a angen busnes.
- Rheoli llinell a darparu arweinyddiaeth effeithiol i dîm o diwtoriaid sy'n cyflwyno cwricwlwm cyflogadwyedd i gefnogi datblygiad pobl ifanc a'r cyfnod pontio tuag at gyflogaeth.
- Cydweithio'n agos â hyfforddwyr swyddi a'u rheolwyr i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cymorth a'r mentora dwys sydd eu hangen i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a chael mynediad at gyflogaeth gynaliadwy.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn hynod drefnus, llawn cymhelliant ac angerddol sydd â dyheadau uchel ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu a chred gref yn eu gallu a'u hawl i weithio. Byddwch yn gallu sefydlu perthnasoedd ymddiriedus gyda phobl ifanc a'u teuluoedd a'u hysbrydoli i anelu at waith cyflogedig.

Bydd gennych brofiad helaeth a thystiolaeth o arfer gweithio cynhwysol llwyddiannus gyda phobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a'u rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd hyn ynghyd â gwybodaeth ymarferol ragorol am fodelau interniaeth â chymorth a hanes profedig o weithio'n effeithiol gyda chyflogwyr ac asiantaethau partner, gyda phrofiad o gyfathrebu â chyflogwyr ar bob lefel.

Bydd angen lefel uchel o sgiliau dylanwadu, negodi ac eirioli arnoch i allu dylanwadu ac ymgysylltu â busnesau i gynnig a darparu interniaethau â chymorth, a'r gallu i ddatrys problemau, ac i ymgysylltu ag amrywiaeth o bartneriaid mewn camau gweithredu i ddatrys problemau.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer rhannu post.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion bregus i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pob plentyn ac oedolyn agored i niwed, a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu llesiant, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog enwebedig ar raddfa heb fod yn is na OM2 neu'r Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff mewn ysgolion all gymeradwyo ceisiadau.

Mae'r swydd hon yn llawn amser a bydd yn 37 awr yr wythnos ar draws 52 wythnos (heblaw yn ystod y tymor).

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: EDU00693

More jobs from Cardiff Council