Jobs
>
Cardiff

    Arweinydd Tîm Rheoli Cynaliadwy Morol - Cardiff, United Kingdom - Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales

    Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales
    Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales Cardiff, United Kingdom

    1 week ago

    Default job background
    Description

    Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithrediadau

    Cyflog cychwynnol: £41,150 yn codi i £46,147 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser)

    Math o gytundeb: Parhaol

    Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
    (Rhoddir ystyriaeth i weithio'n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)

    Dyddiad cyfweld: 21 Tachwedd 2023

    Rhif swydd: 203640

    Y rôl

    Byddwch yn arwain tîm amlddisgyblaethol mawr Cymru gyfan, gan gyfrannu at gyflawni Rhaglen Forol CNC a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Bydd y tîm yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni gofynion y Datganiad Ardal Morol, yn rheoli cysylltiadau â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol, a hefyd bod yn gyfrifol am reoli pysgodfeydd cocos yn Aber Afon Dyfrdwy a Chilfach Tywyn, ynghyd ag arwain a chyflawni gofynion Gwarchodaeth Dyfrdwy. Gall y rhaglen tîm hefyd ehangu i gynnwys gwaith pellach yn ymwneud â rheoli adnoddau morol yn gynaliadwy yn ôl yr angen.

    Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

    I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Andrea Winterton at

    Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

    Amdanom ni

    Mae hwn yn dîm newydd sy'n rhan o'r Gwasanaeth Morol yn ein Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau. Mae'n gyfrifol am reoli'r safle'n uniongyrchol o fewn ein dwy bysgodfa gocos reoledig, ac yn gyfrifol am ddyletswyddau Awdurdod yr Harbwr ar Aber Afon Dyfrdwy yn ogystal â chyflawni gwaith sy'n ymwneud â Datganiadau Ardal Morol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae hwn yn un o 5 tîm morol yn y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau sy'n adrodd i'r Rheolwr Gwasanaeth Morol, ac mae'n cyfrannu at ddarparu gwasanaethau morol o'r dechrau i'r diwedd yn CNC, gan weithio'n agos gyda chydweithwyr yn ein timau Polisi a Thrwyddedu, yn ogystal â thimau gweithrediadau eraill sy'n gwneud gwaith tebyg yn yr amgylchedd daearol. Gosodir blaenoriaethau yn flynyddol fel rhan o Raglen Forol CNC.

    Yr hyn y byddwch chi'n ei wneud

  • Arwain a datblygu staff i sicrhau bod cyfraniadau tîm i Gynllun Gwasanaeth Morol a Rhaglen Forol CNC yn cael eu cyflawni yn ogystal â blaenoriaethau ac amcanion corfforaethol ac adrannol ehangach.
  • Bod yn atebol am lesiant, datblygiad a pherfformiad tîm mawr gwasgaredig yn ddaearyddol a chadw at bolisïau a gweithdrefnau CNC.
  • Llywio datblygiad Cynllun Gwasanaeth Morol a Rhaglen Forol CNC, yn ogystal â chynlluniau a strategaethau perthnasol eraill, yn fewnol ac yn allanol.
  • Cynnal a datblygu arbenigedd technegol mewn rheoli a datblygu'r amgylchedd morol ac arfordirol, er mwyn (a) darparu trosolwg technegol o waith y tîm, a (b) darparu cyngor technegol (ysgrifenedig, llafar a chyflwyniadau), yn fewnol i gydweithwyr ac uwch-reolwyr ac yn allanol i randdeiliaid rhanbarthol a chenedlaethol, ar gylch gwaith y tîm.
  • Rheoli llwythi gwaith adweithiol a phrosiectau gwaith achos lluosog, weithiau'n ddadleuol ac adnabyddus eu natur, a sicrhau darpariaeth amserol.
  • Gweithio ar y cyd ar draws y Gwasanaeth Gweithrediadau Morol, yn ogystal â grwpiau gweithrediadau eraill megis timau monitro a'r Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu, a chyda swyddogaethau perthnasol yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.
  • Rheoli cyllideb y tîm a sicrhau defnydd effeithlon a phriodol o adnoddau.
  • Sicrhau bod y tîm yn cynnal lefelau sgiliau priodol ar draws ei aelodau.
  • Sicrhau bod o leiaf un aelod o'ch tîm yn siarad Cymraeg hyd at Lefel 4.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae'n gweithredu o fewn cyfrifoldebau'r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
  • Pwy ydych chi – cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau sydd eu hangen

    Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y meini prawf canlynol wrth lunio rhestr fer a chyfweld. Defnyddiwch y dull STAR i ddangos sut rydych chi'n bodloni'r gofynion a amlinellir isod yn y cais am swydd.

  • Profiad o reoli tîm mawr gwasgaredig yn ddaearyddol sydd â rolau ac arbenigeddau amrywiol.
  • Profiad sylweddol o waith achos yn y sector morol, a dealltwriaeth dechnegol ohono.
  • Dealltwriaeth ragorol o fframweithiau rheoleiddio a deddfwriaethol morol, cadwraeth a chynllunio.
  • Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes y sector morol (gan gynnwys pysgodfeydd).
  • Profiad o gynllunio wrth gefn ym maes llygredd morol ac ymateb iddo.
  • Sgiliau hyfforddi a mentora.
  • Profiad o gysylltu â rhanddeiliaid a gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd, weithiau'n ymwneud ag achosion a materion dadleuol ac adnabyddus.
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda'r holl randdeiliaid, gan egluro materion a chael cefnogaeth trwy ddylanwadu ar lefel uwch.
  • Sgiliau trefnu, rheoli amser a rhyngbersonol cadarn.
  • Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: – gallu ynganu Cymraeg a defnyddio ymadroddion sylfaenol.
  • Dymunol: – Gallu cyfathrebu'n hyderus yn Gymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith.
  • Noder : Os nad ydych yn bodloni'r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

    Beth fyddwch chi'n ei gael: ein buddion

    Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • gweithio ystwyth a hyblyg
  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy'n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i'w defnyddio
  • Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

    Daliwch ati i ddarllen

    Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

    Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd

    Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

    Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae'r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

    Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o'r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.

    Rydym yn sefydliad dwyieithog sy'n cydymffurfio â



  • Rewilding Britain Wales, United Kingdom Full time

    Rewilding Britain - Cydlynydd Eiriolaeth Cymru · Ers i Rewilding Britain gael ei sefydlu yn 2015, mae ailwylltio wedi newid o fod yn syniad arbenigol i chwarae rôl bwysig yn y frwydr yn erbyn rhai o'r heriau byd-eang mwyaf a wynebir gennym. Mae Rewilding Britain yn rhan annatod o ...