Cynorthwy-ydd Gofal Personol - Barry, United Kingdom - Vale of Glamorgan Council
Description
**Amdanom ni**Mae Ysgol y Deri yn Ysgol Arbennig ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 19 oed sy'n darparu ar gyfer ystod eang ac amrywiol o ddisgyblion o allu gwahanol. Mae gennym gyfleusterau o'r radd flaenaf ac rydym yn gweithio gyda phob plentyn fel unigolyn gan sicrhau bod ei anghenion addysgol a therapiwtig yn cael eu bodloni fel y gall ffynnu yn ein hysgol a phan fydd yn ei gadael.
**Am y Rôl**
Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): YYD-CA
Manylion y Cyflog: Gradd 3, SCP 4, £23,114 pro rata
Oriau Gwaith / Wythnosau'r Flwyddyn / Patrwm Gwaith: Dydd Llun i ddydd Gwener; 8.30am - 3.30pm, yn ystod y tymor yn unig
Prif Weithle: Ysgol y Deri
Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Parhaol
**Disgrifiad**:
Mae'r ysgol yn ceisio penodi nifer o gynorthwywyr gofal personol i ymuno â'r tîm hylendid yn yr ysgol.
Mae'r swyddi wedi'u lleoli ledled yr ysgol, yn gweithio gyda disgyblion o bob oed ag anghenion gofal personol.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys codi a chario, delio ag anghenion gofal personol disgyblion, cynnal lefel uchel o hylendid mewn ystafelloedd ymolchi.
**Amdanat ti**
**Byddwch chi'n**:
- Defnyddio dull digyffro, parchus a chadarnhaol gyda'r disgyblion
- yn gyfeillgar ac yn gweithio'n dda yn annibynnol ac fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ehangach
- yn barod i ddysgu am anghenion unigol y disgybl
- Yn barod i ymgymryd â hyfforddiant i gynorthwyo gydag anghenion gofal personol disgyblion
- Bydd gofyn i chi gael GDG manwl ar gyfer Plant ac Oedolion ar gyfer y swydd hon.
Oes angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?: Manwl
**Sut i wneud cais**
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Viv Burbidge-Smith
Job Reference: SCH00306
More jobs from Vale of Glamorgan Council
-
Behaviour Support Worker
Barry, United Kingdom - 1 week ago
-
Housing and Rents Apprentice
Barry, United Kingdom - 4 days ago
-
Rheolwr TÎm, Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
Barry, United Kingdom - 4 days ago
-
Athro Dosbarth
Barry, United Kingdom - 4 days ago
-
Youth Participation Worker
Barry, United Kingdom - 1 week ago
-
Temporary Catering Assistant
Barry, United Kingdom - 4 days ago