Dylunydd Cynnwys Ar-lein - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council

Cardiff Council
Cardiff Council
Verified Company
Cardiff, United Kingdom

3 weeks ago

Tom O´Connor

Posted by:

Tom O´Connor

beBee Recruiter


Description
**Am Y Gwasanaeth**
Mae gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Adnoddau. Mae'r gwasanaeth yn gartref i ganolfan gyswllt y Cyngor C2C sy'n trin galwadau ffôn, sgyrsiau gwe, cysylltiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a ffurflenni ar-lein gan y cyhoedd ar ran gwasanaethau eraill y cyngor. Mae'r gwasanaeth yn gosod safonau gwasanaeth cwsmeriaid y cyngor ac yn darparu hyfforddiant graddol i bob rhan o'r cyngor i gynyddu a chynnal lefelau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'r holl gwsmeriaid.

**Am Y Swydd**
Hwyluso'r gwaith o ddatblygu a chynnal cynnwys digidol o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid ar wefannau, app a sgyrsbot y Cyngor.

Bydd y swydd hon wedi'i lleoli gartref yn bennaf gyda'r angen am rywfaint o amser swyddfa pan fo'n briodol ac yn ddiogel i wneud hynny.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am ddylunydd cynnwys Ar-lein i berchnogi ymchwil defnyddwyr, cyfweliadau ac arolygon, a all drosglwyddo canfyddiadau o ddata a thystiolaeth i lif defnyddwyr, mapiau teithiau cwsmeriaid, modelau a phrototeipiau.

Byddwch yn defnyddio'r dulliau hyn i wella profiad defnyddwyr ar draws swyddogaethau craidd a nodweddion newydd ein sianeli digidol allweddol.

Rhaid i chi ddilyn dull dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a chredu mewn dylunio gwasanaethau digidol cynhwysol.

Chwaraewr tîm da gydag agwedd gadarnhaol sy'n gallu rheoli ei amser yn effeithiol ar draws nifer o brosiectau digidol.

Rhaid eich bod yn drefnus, prydlon ac yn gallu annog eich hun.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES01076

More jobs from Cardiff Council