Disgrifiad Swydd - Cardiff, United Kingdom - Cardiff Council
Description
**Am Y Gwasanaeth**Mae'r Ganolfan Gyswllt arobryn ac uchel ei pharch, yn cynnig ymateb sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i ymholiadau ynghylch ystod o wasanaethau'r Cyngor gan drigolion Caerdydd a defnyddwyr gwasanaeth eraill drwy sawl cyfrwng gan gynnwys dros y ffôn, cyswllt dros y we, sgyrsiau ar y we, SgyrsBot, e-bost, negeseuon llais a thestun. Os ydych yn frwd dros sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a bod gennych agwedd gadarnhaol, dyma gyfle gyrfaol i chi.
**Am Y Swydd**
Bydd angen i ddeiliad y swydd gynorthwyo a chynnig cyngor i amrywiaeth eang o gwsmeriaid ac aelodau o'r tîm a bydd yn gweithio gyda'r goruchwylydd i sicrhau bod y rhan fwyaf o ymholiadau cwsmeriaid yn cael eu datrys ar y cyswllt cyntaf a bod y lefel gofal cwsmeriaid uchaf yn cael ei chyflawni.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio'n dda mewn tîm, yn manteisio i'r eithaf ar dechnoleg gwybodaeth mewn amgylchedd sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf, ac yn meddu ar y gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau gwaith cynhyrchiol gyda phob gwasanaeth i sicrhau bod cymaint o alwadau â phosibl yn cael eu datrys ar y cyswllt cyntaf i foddhad cwsmeriaid.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r Ganolfan Gyswllt yn ateb galwadau rhwng 8.30am a 8pm (6pm ar hyn o bryd) o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae patrwm shifftiau priodol ar waith. Fodd bynnag, gallai'r oriau/diwrnodau gwaith hyn newid.
Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg
Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: RES01031
More jobs from Cardiff Council
-
Supported Accommodation Night Officer
Cardiff, United Kingdom - 1 week ago
-
Dylunydd Cynnwys Ar-lein
Cardiff, United Kingdom - 23 hours ago
-
Enforcement Officer
Cardiff, United Kingdom - 1 week ago
-
Welsh Headings
Cardiff, United Kingdom - 23 hours ago
-
Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwylio Maethu
Cardiff, United Kingdom - 5 days ago
-
Rheolwr Technegol
Cardiff, United Kingdom - 2 weeks ago